hysbysiad preifatrwydd
Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at y diben penodol o asesu eich ymholiad maethu yn unig. Mae angen prosesu eich data personol at ddibenion y gwasanaethau gofal cymdeithasol dan ‘Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003’ a ‘Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014’ ac er mwyn gweithredu ar eich cais cyn sefydlu contract. Gall Cyngor Sir y Fflint rannu eich data gydag awdurdodau lleol eraill, y GIG, yr Heddlu, Arolygiaeth Gofal Cymru, tai a mabwysiadu ac/ neu asiantaethau maethu at y diben o gynnal gwiriadau cefndirol. Gallai hyn gynnwys trosglwyddo eich data y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop os ydych yn byw mewn gwlad y tu allan i’r ardal honno. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth am 10 mlynedd o ddyddiad terfynu’r gymeradwyaeth neu am o leiaf 3 blynedd o'r dyddiad gwrthod neu dynnu eich cais i fod yn rhiant maeth yn ôl. Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx Rwy’n datgan bod yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen hon yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth. Rwy’n deall y gall yr asiantaeth ofyn i wirio unrhyw ffaith a ddarparwyd. Os canfyddir bod unrhyw ran o’r wybodaeth hon yn ffug, yn gamarweiniol neu ar goll, gall hyn arwain at i’r asiantaeth benderfynu peidio bwrw ymlaen i asesu fy nghais i faethu. Rwy’n deall ei bod yn bwysig i beidio cadw unrhyw wybodaeth yn ôl am ffactorau a allai ddylanwadu ar fy ngallu i ofalu am blentyn. Os ydych yn ansicr am hyn o gwbl, byddaf yn trafod y manylion yn ystod yr asesiad. Rwy’n deall na fydd efallai hawl i weld rhywfaint o’r wybodaeth hon lle mae wedi cael ei darparu'n gyfrinachol. Rwy’n deall fod y ffurflen hon yn eiddo i Gyngor Sir y Fflint. Rwy’n cytuno i beidio copïo’r ddogfen hon (heb law am ar gyfer fy nghofnodion personol fy hun) neu ddatgelu ei chynnwys yn llawn neu’n rhannol, i unrhyw berson, asiantaeth neu awdurdod arall heb ganiatâd yr asiantaeth.